Dafydd ap Gwilym Quotes on Nature

6 quotes

  1. Harddwas teg a'm anrhegai, Hylaw wr mawr hael yw'r Mai. Anfones ym iawn fwnai, Glas defyll glan mwyngyll Mai. Ffloringod brig ni'm digiai, Fflwr-dy-lis gyfoeth mis Mai.

  2. Hawddamor, glwysgor glasgoed, Fis Mai haf, canys mau hoed. Cadarn farchog serchog sal, Cadwynwyrdd feistr coed anial; Cyfaill cariad ac adar, Cof y serchogion a'u car; Cennad nawugain cynnadl, Caredig urddedig ddadl.

  3. Digrif fu, fun, un ennyd Dwyn dan un bedwlwyn ein byd. Cydlwynach , difyrrach fu, Coed olochwyd, cydlechu, Cydfyhwman marian mor, Cydaros mewn coed oror, Cydblannu bedw, gwaith dedwydd, Cydblethu gweddeiddblu gwydd. Cydadrodd serch a'r ferch fain, Cydedrych caeau didrain.

  4. Yr wylan deg ar lanw dioer Unlliw ag eiry neu wenlloer, Dilwch yw dy degwch di, Darn fel haul, dyrnfol, heli.

  5. Yr wybrwynt helynt hylaw Agwrdd drwst a gerdda draw, Gwr eres wyd garw ei sain, Drud byd heb droed heb adain.

  6. Nythod ddwyn, cyd nithud ddail, Ni'th dditia neb, ni'th etail, Na llu rhugl, na llaw rhaglaw, Na llafn glas na llif na glaw.

All Dafydd ap Gwilym quotes