Dafydd ap Gwilym Quotes on Welsh

8 quotes

  1. Nid ydyw Duw mor greulon Ag y dywaid hen ddynion. Ni chyll Duw enaid gwr mwyn, Er caru gwraig na morwyn. Tripheth a gerir drwy'r byd: Gwraig a hinon ac iechyd. Merch sydd decaf blodeuyn Yn y nef ond Duw ei hun.

  2. Cyn rheitied i mi brydu Ag i tithau bregethu, A chyn iawned ym glera Ag I tithau gardota. Pand englynion ac odlau Yw'r hymnau a'r segwensiau? A chywyddau i Dduw lwyd Yw sallwyr Dafydd Broffwyd.

  3. Plygain y darllain deirllith, Plu yw ei gasul i'n plith. Pell y clywir uwch tiroedd Ei lef o lwyn a'i loyw floedd. Proffwyd rhiw, praff awdur hoed, Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.

  4. Lleuad las gron gwmpas graen, Llawn o hud, llun ehedfaen; Hadlyd liw, hudol o dlws, Hudolion a'i hadeilws; Breuddwyd o'r modd ebrwydda', Bradwr oer a brawd i'r ia. Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas, Fflam fo'r drych mingam meingas!

  5. Harddwas teg a'm anrhegai, Hylaw wr mawr hael yw'r Mai. Anfones ym iawn fwnai, Glas defyll glan mwyngyll Mai. Ffloringod brig ni'm digiai, Fflwr-dy-lis gyfoeth mis Mai.

  6. Hawddamor, glwysgor glasgoed, Fis Mai haf, canys mau hoed. Cadarn farchog serchog sal, Cadwynwyrdd feistr coed anial; Cyfaill cariad ac adar, Cof y serchogion a'u car; Cennad nawugain cynnadl, Caredig urddedig ddadl.

  7. Digrif fu, fun, un ennyd Dwyn dan un bedwlwyn ein byd. Cydlwynach , difyrrach fu, Coed olochwyd, cydlechu, Cydfyhwman marian mor, Cydaros mewn coed oror, Cydblannu bedw, gwaith dedwydd, Cydblethu gweddeiddblu gwydd. Cydadrodd serch a'r ferch fain, Cydedrych caeau didrain.

  8. No lover in any language, and certainly no poet, has confessed to missing the mark more often than Dafydd ap Gwilym. Uncooperative husbands, quick-triggered alarms, crones and walls, strong locks, floods and fogs and bogs and dogs are for ever interposing themselves between him and golden-haired Morfudd, black-browed Dyddgu, or Gwen the infinitely fair. But a great trier, even in church.

All Dafydd ap Gwilym quotes