Dafydd ap Gwilym Quotes on Poetry

11 quotes

  1. Nid ydyw Duw mor greulon Ag y dywaid hen ddynion. Ni chyll Duw enaid gwr mwyn, Er caru gwraig na morwyn. Tripheth a gerir drwy'r byd: Gwraig a hinon ac iechyd. Merch sydd decaf blodeuyn Yn y nef ond Duw ei hun.

  2. Cyn rheitied i mi brydu Ag i tithau bregethu, A chyn iawned ym glera Ag I tithau gardota. Pand englynion ac odlau Yw'r hymnau a'r segwensiau? A chywyddau i Dduw lwyd Yw sallwyr Dafydd Broffwyd.

  3. Plygain y darllain deirllith, Plu yw ei gasul i'n plith. Pell y clywir uwch tiroedd Ei lef o lwyn a'i loyw floedd. Proffwyd rhiw, praff awdur hoed, Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.

  4. Lleuad las gron gwmpas graen, Llawn o hud, llun ehedfaen; Hadlyd liw, hudol o dlws, Hudolion a'i hadeilws; Breuddwyd o'r modd ebrwydda', Bradwr oer a brawd i'r ia. Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas, Fflam fo'r drych mingam meingas!

  5. Harddwas teg a'm anrhegai, Hylaw wr mawr hael yw'r Mai. Anfones ym iawn fwnai, Glas defyll glan mwyngyll Mai. Ffloringod brig ni'm digiai, Fflwr-dy-lis gyfoeth mis Mai.

  6. Hawddamor, glwysgor glasgoed, Fis Mai haf, canys mau hoed. Cadarn farchog serchog sal, Cadwynwyrdd feistr coed anial; Cyfaill cariad ac adar, Cof y serchogion a'u car; Cennad nawugain cynnadl, Caredig urddedig ddadl.

  7. Digrif fu, fun, un ennyd Dwyn dan un bedwlwyn ein byd. Cydlwynach , difyrrach fu, Coed olochwyd, cydlechu, Cydfyhwman marian mor, Cydaros mewn coed oror, Cydblannu bedw, gwaith dedwydd, Cydblethu gweddeiddblu gwydd. Cydadrodd serch a'r ferch fain, Cydedrych caeau didrain.

  8. Yr wylan deg ar lanw dioer Unlliw ag eiry neu wenlloer, Dilwch yw dy degwch di, Darn fel haul, dyrnfol, heli.

  9. Yr wybrwynt helynt hylaw Agwrdd drwst a gerdda draw, Gwr eres wyd garw ei sain, Drud byd heb droed heb adain.

  10. Nythod ddwyn, cyd nithud ddail, Ni'th dditia neb, ni'th etail, Na llu rhugl, na llaw rhaglaw, Na llafn glas na llif na glaw.

  11. Yet Dafydd's humour does not obscure, any more than Chaucer's does, the underlying seriousness of his poetry. Behind his poems of requited and unrequited love, whether idyllic or idealizing, whether streaked by savage jealousy or a profound feeling of betrayal reminiscent of Troilus and Criseyde, there runs a sense of the cruel impermanence of the world.

All Dafydd ap Gwilym quotes