Dafydd ap Gwilym Quotes on Wales
-
Nid ydyw Duw mor greulon Ag y dywaid hen ddynion. Ni chyll Duw enaid gwr mwyn, Er caru gwraig na morwyn. Tripheth a gerir drwy'r byd: Gwraig a hinon ac iechyd. Merch sydd decaf blodeuyn Yn y nef ond Duw ei hun.
-
Cyn rheitied i mi brydu Ag i tithau bregethu, A chyn iawned ym glera Ag I tithau gardota. Pand englynion ac odlau Yw'r hymnau a'r segwensiau? A chywyddau i Dduw lwyd Yw sallwyr Dafydd Broffwyd.
-
Plygain y darllain deirllith, Plu yw ei gasul i'n plith. Pell y clywir uwch tiroedd Ei lef o lwyn a'i loyw floedd. Proffwyd rhiw, praff awdur hoed, Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
-
Ni thybiais, ddewwrdrais ddirdra, Na bai deg f'wyneb a da, Oni theimlais, waith amlwg, Y drych.
-
Lleuad las gron gwmpas graen, Llawn o hud, llun ehedfaen; Hadlyd liw, hudol o dlws, Hudolion a'i hadeilws; Breuddwyd o'r modd ebrwydda', Bradwr oer a brawd i'r ia. Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas, Fflam fo'r drych mingam meingas!